Pobl yn Gyntaf y Fro
Pobl Y Fro yn Gyntaf yw cyfluniant am bobl efo anableddau dysgu sydd yn cael eu arwain gan bobl efo anableddau dysgu.
Rydym yn ymgyrchu am ein hawliau, newid a chyfleoedd. Rydym yn gofalu am ein gilydd. Rydym yn ymdrechu am barch, newid a chyfleoedd.
Yn ychwanegol I gweithio'n galed yn ein cais I rhoi llais I bobl sy'n defnyddio'r gwasanaethau a cynnig eiriolaeth, rydym yn hoff o gael hwyl. O ganlyniad rydym yn trefnu achlysuron I godi arian, achlysuron gymdeithasol, fel, partion a tripiau yn y allan I'r gymdeithas.
Rydym yn cynnal cyfarfodau rheolaidd yn ardalaodd wahanol ar draws y Fro ac yn croesawu aelodau newydd. Os ydych chi neu eich cymorth am mwy o wybodaeth neu a ddiddordeb yn ymuno a ni cyswlltwch:
Vale People First
The Hub
Barry YMCA
Court Road
BARRY
CF64 4EE
Pobl yn Gyntaf y Fro – Rhoi Blaenoriaeth i Bobl ym Mro Morgannwg
Ym mis Gorffennaf 2004, fe wnaeth Jeanette Thomas o Anabledd Dysgu Cymru (SCOVO gynt), gais am arian i gynllun hunan-eiriolaeth BILD er mwyn sefydlu grw^p ym Mro Morgannwg, gan mai ychydig iawn o ddarparu gwasanaeth ar gyfer pobl ag anabledd dysgu oedd ar gael yn yr ardal.
Cyflogwyd Liz Davidson i sefydlu Cynllun Hunan Eiriolaeth Bro Morgannwg, i’w leoli yng Ngholeg y Barri, a rhan o griteria’r prosiect oedd ffurfio Grw^p Pobl Yn Gyntaf cyn Mawrth 2006.
Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf Pwyllgor Aelodau Pobl yn Gyntaf ym Mawrth 2005, gyda Lorraine Basset, Aelod Cynulliad Penarth, yn bresennol i agor y cyfarfod. Ers hynny, rydym wedi cyflawni pethau mawr, diolch i frwdfrydedd ein haelodau. Bellach mae gennym aelodaeth o 35 ac mae’r nifer yn cynyddu yn wythnosol.
Hefyd cafwyd cefnogaeth gant y cant gan staff Materion Eiriolaeth Cymru a thiwtoriaid Coleg y Barri. Mae Aelod Cynulliad Bro Morgannwg, Jane Hutt, hefyd wedi dangos cefnogaeth trwy ymuno â’n Pwyllgor Rheoli.
Rydym yn gweithio’n galed ac yn chwarae’n galed. Rydym wedi cymryd rhan mewn cynadleddau eiriolaeth ar hyd y wlad, ble mae’n haelodau wedi cymryd rhan llawn mewn gweithdai a thrafodaethau. Rydym wedi rhyngweithio gyda grwpiau Pobl yn Gyntaf eraill ac wedi ar sawl ymweliad cymdeithasol. Yn y dyfodol agos iawn fe fyddwn yn ymuno â chwmni Theatr Hijinx er mwyn dysgu mwy am sgiliau cyfathrebu trwy ddrama.
Ar hyn o bryd, rydym yn y broses o dderbyn arian gan yr Awdurdod Lleol i sefydlu Grw^p Gwybodaeth, fydd yn hel gwybodaeth gan wasanaethau Iechyd a Hamdden lleol. Canlyniad hyn fydd bod cynrychiolydd o’r grw^p yn eistedd ar grw^p Cynllunio Strategol yr awdurdod lleol, i ymborthi ein canlyniadau i geisio gwella’r gwasanaethau presennol ac i’r dyfodol. Erbyn Ionawr 2006 byddwn wedi symud i swyddfa newydd yn yr Hub yng nghanol Y Barri. Yma bydd seiliau cadarn ein prosiect...byddwn yn gallu cyrraedd yr entrychion!
Os oes gennych ymholiadau’n ymwneud â phrosiectau cysylltwch â ni os gwelwch yn dda.




