Cyfleusterau Hyfforddiant a Chyfarfodydd yng Nghaerdydd ar gael i'w llogi
Os ydych yn chwilio am ofod hygyrch, modern, golau gyda digon o adnoddau ar gyfer eich cyfarfod neu eich digwyddiad hyfforddi nesaf, efallai bod ystafell hyfforddi Anabledd Dysgu Cymru yn ddelfrydol ar gyfer eich anghenion.
Cyfleusterau yn Cynnwys
- Bwrdd gwyn rhyngweithiol
- Gliniadur a thaflunydd
- Mynediad rhyngrwyd diwifr
- Offer Sain
- Ffôn telegynadledda
- Peiriant te/coffi
- Stand a pheniau siart troi
- Pad siart troi
- OHP
- System awyru
Lleoliad
Rydym wedi’n lleoli yn agos at yr M4 ar gyrion Canol Dinas Caerdydd. Mae modd parcio am ddim ger ein swyddfeydd modern, hygyrch ac mae digon o drafnidiaeth cyhoeddus ar gael.
Prisiau a Gwasanaethau
Llogi ystafell (Nid yw TAW yn berthnasol)
|
½ diwrnod |
Diwrnod llawn |
Aelodau |
£45 |
£90 |
Heb fod yn aelodau |
£50 |
£100 |
Te & Choffi (yn cynnwys TAW)
£4.00 y person
Llungopïo (yn cynnwys TAW)
Du a Gwyn |
9.5c fesul ochr A4 |
Lliw |
23.5c fesul ochr A4 |
TG
Gliniadur |
Am ddim |
Taflunydd LCD |
Am ddim |
Rhyngrwyd diwifr |
Am ddim |
Ffôn |
Cyfraddau safonol BT |
Mae bwydlenni bwffe ar gael gan arlwywyr allanol cymeradwy.
Ffurflen Archebu Llogi yn Cynnwys Telerau ac Amodau
Am ragor o wybodaeth ac i archebu yr ystafell ffoniwch Inacia ar 029 2068 1160 neu E-bost training@learningdisabilitywales.org.uk




