Training at a hairdressing salon

Hyfforddiant

"Mae hyfforddiant yn ffordd bwysig o newid agweddau, gwella ymarfer ac yn y pen draw, gwella bywydau."

Yn rhy aml, gall pobl ddod o hyfforddiant wedi cael eu hysbrydoli neu eu hannog gan ymagwedd newydd, ac yna cânt eu sugno'i mewn yn ol i'w trefn gwaith dyddiol gan ei chael yn anodd i weithredu'r syniadau y maent wedi eu dysgu.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae Anabledd Dysgu Cymru wedi datblygu enw da fel darparydd gwasanaeth hyfforddiant. Ein nod yw darparu rhaglen o hyfforddiant a digwyddiadau sydd yn:

  • Hygyrch - yn hawdd i bawb ei ddeall
  • Ystyrlon - yn gwneud synnwyr o ran eich bywyd a'ch gwaith
  • Defbyddiol - eich ysbrydoli i wneud gwahaniaeth i chi ac i'r rhai yr ydych yn eu cefnogi

Rydym yn arbenigo mewn defnyddio hyfforddwyr a siaradwyr sydd ag arbenigedd a phrofiad go iawn yn eu meysydd perthnasol. Mae hyn yn rhoi'r cyfle i'r rhai sydd yn defnyddio'n hyfforddiant i gael ysbrydoliaeth ac offer gweithio bywyd go iawn i wneud y newidiadau sydd angen eu gwneud yn eu bywydau ac ymarferion gwaith beunyddiol.

Mae llawer o bobl sydd yn mynychu ein hyfforddiant yn dod yno gyda'r cwestiwn, 'Os gall rhywun arall wneud hyn, yna pam na allaf i?'. Yr ateb yw y gall pob un ohonom ddysgu sgiliau newydd i wella ein bywydau a bywydau pobl eraill ac mae'r adborth a dderbyniwn yn dangos y bydd hyfforddiant da yn newid bywydau.

Yn ogystal â'n rhaglen hyfforddiant craidd, rydym yn cynnig gwasanaeth arbennig o hyfforddiant mewnol wedi'i deilwra yn arbennig ar gyfer cyrff a phrosiectau ledled Cymru.

Mae Anabledd Dysgu Cymru hefyd yn cynnig DIGWYDDIADAU YMGYNGHORI, DIGWYDDIADAU RHANBARTHOL a SEMINARAU yn ogystal â'n CYNHADLEDD FLYNYDDOL.

Os oes gennych unrhyw syniadau ynglyn â’r math o hyfforddiant sydd ei angen ar eich sefydliad chi neu ar awdurdodau lleol, yna siaradwch gyda ni. Ein nod yw creu rhwydwaith o hyfforddwyr gyda syniadau ymarferol sy’n gweithio.

Os oes gennych ymarfer da ac yn credu y gall eraill elwa ohono, gallwn fod o gymorth i chi sicrhau ei fod ar gael i fwy o bobl. Mae hyfforddiant da gyda gogwydd ymarferol yn gweithio - cysylltwch â ni.

Am fwy o wybodaeth am ein gwasanaeth hyfforddi ac i wybod mwy am ddigwyddiadau yn y dyfodol, cysylltwch â ni.

Training Brochure Training Flyer

Rhaglen Hyfforddi Newydd - Haf 2010

Mae ein rhaglen hyfforddi newydd ar gyfer Haf 2010 yn awr ar gael.

Mae ein rhaglenni yn cynnwys y cyrsiau canlynol:

  • Deall Polisi Plant.
  • Deall Cyfraith Gofal Cymunedol – Oedolion.
  • Gwneud Gwybodaeth yn Hawdd I’w Ddarllen a’I Ddeall.
  • Coginio.
  • Cyfathrebu trwy Gyffwrdd.
  • Deall Cyfraith Gofal Cymunedol – Plant.
  • Cyflwyniad i Fudd-daliadau ar gyfer Plant Anabl a’u Teuluoedd.
  • PATH ar gyfer Unigolion, Prosiectau a Chyrff.
  • Deall Cyfraith Gofal Cymunedol – Gofalwyr.
  • Deall Pobl gydag Anableddau Dysgu.
  • Cyflwyniad i Fudd-daliadau ar gyfer Oedolion Anabl.

Llwythwch ein Rhaglen Hyfforddi i lawr yma.

Am ragor o wybodaeth ffoniwch neu ebostiwch Inacia Rodrigues

Right-click on link and select 'Save Target As'