Gormod o Dudalennau
Cynnwys defnyddwyr gwasanaeth i gynnig gwell gwasanaeth
"Gormod o dudalennau..."
Canu cloch?
Mae’n hunllef parhaol i rai ohonom... nid cyfrif defaid fyddwn ni pan yn methu cysgu ond dogfennau ymgynghorol, Papurau Gwyn a Gwyrdd, Paratoi Achosion i’r Cynulliad.
Mae’n ddigon i wneud i chi grio a gyrru’r goreuon i guddio dan ein desgiau!
Ond beth os oes gennych anabledd dysgu? Efallai fod darllen yn anodd i chi. Efallai na fedrwch ddarllen o gwbl. Efallai’ch bod chi’n teimlo fel cuddio o dan y ddesg.
Neu, fel ddywedodd defnyddiwr gwasanaeth wrthym…
"Os oes gormod o dudalennau, does gen i ddim amynedd, felly dwi’n ei roi yn y bin..."
Y fath onestrwydd!
So, Learning Disability Wales asked her and others who use services, how organisations like ours can get better at involving people.
Felly fe ofynnodd Anabledd Dysgu Cymru iddi hi, a defnyddwyr eraill, sut y gall cyrff fel ni gynnwys pobl yn fwy.
Gobeithio ein bod wedi meddwl am rhywbeth ymarferol iawn – heb ormod o dudalennau! Rhywbeth fydd o gymorth i ni i gyd i ddeall beth ddylem ni fod yn ei wneud a sut y gallwn ei wneud.
Mae wedi ei ysgrifennu o safbwynt Anabledd Dysgu Cymru a chyrff eraill cyffelyb, ond mae’r syniadau yn gyffredin i bawb ac fe ellir eu haddasu i ystod eang o sefyllfaoedd.
Mae copiau Gormod o Dudalennau yn rhad ac am ddim. Cliciwch yma i archebu.
Pan Fo Bywyd Yn Anheg
"Dyw e ddim yn deg!"
Sawl gwaith ydych chi wedi dweud hynny?
Fel arfer mae’n cychwyn yn ystod plentyndod...a’r ateb a gawsoch?
"Dyw bywyd ddim yn deg!"
Felly rydych yn dysgu cadw’n dawel, am mai dyna beth mae pobl eisiau.
Ond dyw’r anghydraddoldebau a welwch chi ddim yn diflannu...teulu heb fwyd, dyn heb esgidiau, y fenyw heb gartref...ac rydych chi’n gwybod fod cadw’n dawel yn anghywir.
Yn y diwedd rydych yn dysgu nad yw bywyd yn deg...ond rydych yn dysgu hefyd nad oes rhaid cadw’n dawel. Does dim rhaid derbyn yr anghydraddoldebau hyn.
Os mai pobl sy’n creu anghydraddoldeb...mae’n rhaid mai pobl sydd â’r pw^er i newid pethau! Canllaw ar sut y gellir defnyddio lobio ac ymgyrchu i ennill cydraddoldeb a hawliau i bobl ag anableddau dysgu yw Pan Fo Bywyd Yn Anheg.
Mae copiau o Pan Fo Bywyd Yn Anheg ar gael yn rhad ac am ddim. Cliciwch yma i archebu copi.




