Beth yn union a olygir wrth gyflogaeth gyda chefnogaeth?
Gwaith yw cyflogaeth gyda chefnogaeth a delir am y swydd ar bris y farchnad, i bobl ag anabledd. Mae’n swydd mewn gweithlu cyffredin yn y gymuned; mae’n waith y byddai person nad yw’n anabl yn ei wneud. Caiff y cyflogai newydd ei gefnogi gan asiantaeth arbennig sydd â phrofiad o hyfforddi rhai sydd yn chwilio am waith allai fod angen cefnogaeth ychwanegol i gyflawni safonau’r cyflogwr yn ystod dyddiau cynnar eu cyflogaeth.
Y Model
Yn dilyn datblygu Proffil Galwedigaethol y person, a gaiff ei ddylunio trwy drafodaeth gyda nhw a gyda’r bobl sydd yn eu gwerthfawrogi, bydd yr asiantaeth yn dechrau chwilio am waith i gael y swydd fwyaf addas ar gyfer sgiliau a diddordebau’r person.
Bydd Hyfforddwr Swydd, wedi’i hyfforddi i ddefnyddio techneg
sy’n cael ei alw’n Cyfarwyddyd Systematig, yn darparu
hyfforddiant mewn swydd. Bydd Dadansoddiad Swydd yn helpu’r
Hyfforddwr Swydd i gael yr wybodaeth angenrheidiol am y swydd.
Yn raddol wrth i’r cyflogai newydd ennyn sgiliau a chyrraedd
safon perfformiad disgwyliedig y cyflogwr bydd yr Hyfforddwr Swydd
yn tynnu’r gefnogaeth yn ôl yn raddol, fel rheol trwy
enwi aelod arall o’r staff yn y gwaith fel ‘cefnogaeth
naturiol’.
Yn ddelfrydol bydd cefnogaeth ar gael i’r cyflogai a’r cyflwr am gyfnod amhenodol; ond mae dull cyllido ar gyfer cefnogaeth yn dylanwadau ar hyd y cyfnod.
Hanes
Mae asiantaethau sydd yn arbenigo yn y gwaith hwn i’w cael ledled Cymru ers 1984, trwy ddylanwad Strategaeth Anabledd Dysgu Cymru Gyfan. Yn yr 1970au yn UDA, arloesodd Mark Gold gyda’r Cyfarwyddyd Systematig i bobl ag anabledd dysgu dwys, ymagwedd a enwir fel ‘Rhowch Gynnig ar Ffordd Arall’ gan roi cyfrifoldeb dros lwyddiant yr hyfforddiant yn gyfan gwbl ar ysgwyddau’r hyfforddwr ac nid y dysgwr. Roedd y newid athronyddol hwn yn gwerthfawrogi’r dysgwr gan arwain at ymagwedd wahanol tuag at hyfforddi pobl ag anabledd dysgu.
Cyllido
Mae Cyflogaeth gyda Chefnogaeth hefyd yn cynnwys darpariaeth CAMGWAITH y Llywodraeth. Mae rhai o’r asiantaethau cyflogaeth gyda chefnogaeth yng Nghymru hefyd yn ddarparwyr CAMGWAITH ac maen ganddynt gontractau gyda Chanolfannau Gwaith. Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn cynnal adolygiad hyn o bryd i ddarpariaeth rhaglenni’n canolbwyntio ar waith i bobl anabl. Mae mwyafrif yr asiantaethau cyflogaeth gyda chefnogaeth yn cael eu cyllido o amrywiol ffynonellau. Mae’r rhain yn cynnwys: Adrannau Gwasanaethau Cymdeithasol, Cyrff Iechyd a chyrff ac ymddiriedolaethau elusennol, er enghraifft Y Loteri Fawr neu Plant mewn Angen. Mae cyllido ar gyfer y model hwn sydd yn darparu cyfleoedd cyflogaeth yn llwyddiannus i bobl ag anableddau dysgu yn ffynhonnell barhaus o ansicrwydd.
Mae gan Gymdeithas Cymru o Asiantaethau Cyflogaeth gyda Chefnogaeth ymddiriedolwr sydd yn bwydo i mewn i Anabledd Dysgu Cymru ar ran ASE Cymru.




