Cymdeithas Cymru o Asiantaethau Cyflogaeth gyda Chefnogaeth (ASEA Cymru)
Pwy ydym
Tyfodd y Gymdeithas o’r Gymdeithas ar gyfer Cyflogaeth gyda
Chefnogaeth DU gyfan (AfSE) a sefydlwyd yn gynnar yn yr 1990au. Roedd
aelodau Cymru yn teimlo fod aelodaeth AfSE yn rhy eang ac y byddai
cymdeithas o asiantaethau proffesiynol yn cyflwyno gwasanaeth i bobl
ag anableddau dysgu yng Nghymru yn fwy perthnasol a chynhyrchiol.
Mae ASEA bellach wedi ei gofrestru fel elusen. Mae’r gymdeithas
yn cyfarfod 4 gwaith y flwyddyn, dau gyfarfod yn ne Cymru a dau yng
nghanolbarth Cymru. Mae’n well gan rai aelodau yng ngogledd
Cymru gymryd rhan trwy dderbyn cofnodion, er bod Agoriad, yr asiantaeth
cyflogaeth gyda chefnogaeth ym Mangor yn gyfranogwr gweithgar.
Mae gan ASEA 23 o gyrff sydd yn aelodau ac maent yn cynnwys Cymru
gyfan. Mae aelodau ASEA wedi datblygu consortiwm yn ne Cymru sydd
yn ymestyn o Geredigion i Went, ac mae’n cyflwyno rhaglen Paratoi
at Waith ar gyfer Canolfan Byd Gwaith.
Gyda dyfodiad Llywodraeth y Cynulliad a’r gwahanu rhwng Cymru
a Lloegr o ran y ddarpariaeth yn y Gwasanaethau Addysg a Chymdeithasol,
mae’r gymdeithas wedi bod yn amhrisiadwy. Gall ASEA Cymru fynd
i’r afael â materion y gall y Cynulliad ddylanwadu’n
uniongyrchol arnynt.
Ym mis Hydref 2006, gwahoddwyd aelodau ASEA i roi tystiolaeth gerbron pwyllgor Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau Llywodraeth y Cynulliad, sydd yn ddiweddar wedi cynnal adolygiad o ddarpariaeth Addysg Arbennig. Trydydd adran yr Adolygiad – Pontio – oedd pwnc cyfraniad aelodau ASEA. Cyflwynwyd yr achos dros gyflogaeth gyda chefnogaeth fel dewis gwerthfawr i addysg bellach i fyfyrwyr priodol, wrth iddynt symudo ysgol i fywyd oedolion gan yr asiantaethau ac Anabledd Dysgu Cymru.
Dangoswyd gwerth ASEA fel cymdeithas i’w lawn botensial, pan ym mis Ionawr 2007, yn erbyn amserlenni tynn, cyfarfu asiantaethau o ogledd, canolbarth a de Cymru i lunio cais am gyllid gan yr Adran Addysg Dysgu Gydol Oes a Sgiliau ar gyfer Dysgu yn y Gweithle. Mencap oedd y corff arweiniol. Gobeithio y bydd ASEA yn y dyfodol yn gallu datblygu ysgrifenyddiaeth gref a fydd yn cynyddu aelodaeth ac yn codi arian.
Yn y dyfodol bydd ASEA yn gweithio gyda Chymdeithas Brydeinig Cyflogaeth gyda Chefnogaeth (BASE) ar faterion sydd yn DU gyfan, fel ad-drefnu darpariaeth gwasanaethau cyflogaeth i bobl anabl, sydd ar hyn o bryd yn cael ei adolygu gan yr Adran Gwaith a Phensiynau a’r Budd-daliadau Lles newydd fydd yn dod i rym yn 2008.
Cysylltwch â Ni
Ysgrifennwch at ASEA Cymru, d/o Quest, 433 Cowbridge Road East, Treganna,
Caerdydd, CF 5 1JH,
Neu
E-bost: diane.Lloyd@innovate-trust.org.uk ; Kaynie McLellan (Cadeirydd) kaynie@wisewales.org.uk, Andrea Wayman (Trysorydd) awayman@elitesea.co.uk




