Tanysgrifio i Llais a Llais Update
Rydym yn gweithredu system tanysgrifio i Llais a Llais Update sydd ar gael i asiantaethau sector statudol yn unig. Cysylltwch â ni am ffurflen gais.
Mae Aelodaeth Gyswllt yn ffordd ratach i weithwyr unigol sector statudol dderbyn Llais a Llais Update ac yn cynnig y manteision pellach y soniwyd amdanynt.
Pwy all danysgrifio?
Mae'r gwasanaeth wedi ei gynllunio yn arbennig ar gyfer asiantaethau. Mae ar gael i adrannau awdurdodau lleol fel gwasanaethau cymdeithasol ac addysg, cyrff addysgiadol, awdurdodau iechyd ac ymddiriedolaethau iechyd.
Beth ydych chi'n ei dderbyn?
Rydym yn cynnig system resymol a hyblyg. Mae gennych ddewis i brynu faint fynnoch chi o setiau (lleiafrif o 4) wedi eu hanfon at un cyswllt neu i gyfeiriadau a dargedwyd yn unigol - gan arbed arian ac amser i chi wrth ailddosbarthu copiau. Ceir gostyngiad gwych am archebion mawr.
Mae set yn cynnwys:
- Llais Update: un copi yn Saesneg bob mis (ar wahân i fis Rhagfyr)
- Llais: un copi dwyieithog bob chwarter
Rates
- 4 sets=£59
- 6=£73
- 8=£86
- 10=£95 neu
- 11 neu fwy =£9 yr un
Tanysgrifio neu ymaelodi?
Gall unigolion sy'n gweithio yn y sector statudol ystyried aelodaeth Cyswllt/Unigol fel ffordd ratach o dderbyn Llais a Llais Update a derbyn manteision pellach.
Cysylltwch â ni i holi am ffurflen ymaelodi.




