Pa wasanaethau a gynigir gan Anabledd Dysgu Cymru?

Os ydych yn gweithio i gorff gwirfoddol neu asiantaeth statudol, neu yn berson gydag anabledd dysgu, yn ofalwr neu eiriolydd, gall Anabledd Dysgu Cymru gynnig ystod o wasanaethau ar eich cyfer, gan gynnwys:

Gwasanaeth Gwybodaeth

Gallwch gysylltu â ni os oes angen mwy o wybodaeth arnoch neu am fynediad i'n bas data eang o rifau ffôn a chysylltiadau. Mae gennym hefyd lyfrgell eang o wybodaeth ar bolisiau, gwasanaethau ac agweddau o fywyd sydd yn effeithio ar bobl gydag anabledd dysgu.

Cewch wybodaeth am ddatblygiadau gwasanaeth a materion yn ein cylchgrawn chwarterol Llais, sy'n cynnwys y farn ddiweddaraf ar bob agwedd o fywyd, o dai i waith. Mae Llais yn cynnig llwyfan trwy Gymru i ledu gwybodaeth ac amlygu arfer da, yn ogystal â chynnig trafodaeth a dadl ynglyn â hyrwyddo hawl pobl ag anabledd dysgu i fywyd cyffredin.

Llais Update yw ein cylchlythyr misol sy'n llawn o newyddion am ddatblygiad polisiau, gwybodaeth am gyfleusterau, a materion lleol o amgylch Cymru. Ceir ynddo hefyd restr o gyfleon hyfforddi a digwyddiadau cyfredol. Cynhyrchir papurau a phecynnau paratoi achos hefyd er gwybodaeth ar faterion perthnasol..

Mae ein Gwasanaeth Gwybodaeth Hygyrch yn galluogi cyrff ac asiantaethau statudol i gynhyrchu gwybodaeth mewn fformat sydd yn haws i bobl ag anabledd dysgu ei ddeall.

Cynigiwn hefyd wasanaeth E-newyddion, i gynnig gwybodaeth bwysig i'n haelodau trwy ddefnyddio e-bost. Cynhyrchir papurau a phecynnau paratoi achos hefyd ar faterion perthnasol.

Gwaith polisi ac ymgyrchoedd

Rydym yn lobio'r llywodraeth ac asiantaethau eraill ar faterion sydd yn bwysig i bobl ag anabledd dysgu ac yn cynrychioli barn y sector gwirfoddol yng Nghymru.

Hyfforddi rheolaidd, cynadleddau, seminarau.

Mae gennym raglen barhaus o hyfforddiant, cynadleddau a seminarau o amgylch Cymru i'ch cadw yn wybodus ar faterion amserol.

Ymchwil ac ymgynghoriad

Pan fo'ch asiantaeth angen gwaith wedi ei wneud ac fe hoffech weithio'n benodol gyda phobl ag anabledd dysgu, cysylltwch â ni. Mae gennym record lwyddiannus iawn o gwblhau prosiectau o safon uchel i asiantaethau.

Photo of boy with sports shirt

I dderbyn mynediad blaenoriaethol i wasanaethau, ymaelodwch heddiw. Os ydych yn gorff gwirfoddol yn gweithio yng Nghymru ceisiwch am aelodaeth llawn.

Gall unigolion wneud cais am aelodaeth gyswllt.

Subscription to Llais and Llais Update

Gall asiantaethau statudol danysgrifio i Llais a Llais Update. Gofynnwch am daflen ymaelodi/tanysgrifio.

Mae'r gost yn rhesymol iawn.