GES (Gwasanaeth Eiriolaeth Systemau)
Mae’r Gwasanaeth Eiriolaeth Systemau yn gweithredu yng ngogledd ddwyrain Cymru. Mae’n cynnig cefnogaeth eiriolaeth i oedolion gydag anabledd dysgu sy’n byw yn sir Ddinbych, Fflint a Wrecsam , a hynny ar sail un i un. Mae cefnogaeth eiriolaeth am ddim i’r defnyddiwr ac mae’n gyfrinachol.
Mae gan y gwasanaeth bedwar swyddog eiriolaeth sy’n gweithio yn y siroedd hyn ac sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda chleientiaid i ddatrys problem neu i helpu cleientiaid wneud y penderfyniad sy’n iawn ar eu cyfer nhw.
Mae peth o’r gwaith a wneir yn cael ei gyfyngu o ran amser neu yn achos eiriolaeth. Golyga hyn bod swyddog eiriolaeth yn gweithio nes bod y cleient yn hapus bod anhawster wedi ei ddatrys. Nôd y swyddog eiriolaeth yw ceisio sicrhau bod y canlyniad yn iawn i’r cleient ac mai dyna beth mae nhw wirioneddol eisiau, ac nid beth mae pobl eraill yn meddwl sydd eisiau arnynt.
Mae elfennau eraill o’r gwaith yn fwy hir dymor ac mae’r swyddog eiriolaeth yn cynnig cefnogaeth ar sail gyfredol.
Sicrhau bod pobl yn fodlon ar y gwasanaeth a gynigir gan yr awdurdod lleol yw llawer o’r gwaith. Fe ddelir gyda phob math o faterion eraill yn ogystal fel materion teuluol a materion ariannol a chyfreithiol.
Os oes gennych ymholiadau’n ymwneud â phrosiectau cysylltwch â ni os gwelwch yn dda.




