Rhwydwaith Cynllunio wedi’i Ganoli ar y Person
Amdanom ni
Mae Cynllunio wedi’i Ganoli ar y Person y amrediad o agweddau (neu ‘offer’) y gellir eu defnyddio ar wahân neu gyda’i gilydd i helpu unigolion neu deuluoedd i feddwl am eu bywydau. Cefnogir y dull hwn o weithio gan set gref iawn o werthoedd (neu gredoau) sydd yn rhoi’r unigolyn mewn rheolaeth o’u cynllunio ac sydd yn eu helpu i gael rhagor o gyswllt gyda’u cymuned (gweler ‘Cyflwyniad i Gynllunio wedi’i Ganoli ar y Person’ o dan y Dogfennau Perthnasol isod am ragor o wybodaeth).
Er y byddai’r rhan fwyaf o bobl yn cytuno ei bod yn gwneud synnwyr i ddefnyddio’r agweddau hyn, mae llawer o bethau yn sefyll yn eu ffordd. Felly yn 2004 sefydlwyd gweithgor Cymru gyfan. Pan fyddwn gyda’n gilydd rydym yn edrych ar sut mae pethau’n mynd, beth sy’n gweithio a beth yw’r rhwystrau, trwy edrych ar enghreifftiau go iawn. Rydym bob amser yn ceisio ymarfer yr hyn yr ydym yn ei bregethu ac yn cynnal cyfarfodydd mewn modd sydd ‘yn canolbwyntio ar y person’ ac yn edrych ar gysylltu unigolion gyda’i gilydd yn greadigol i wneud y mwyaf o’n sgiliau a’n hadnoddau.
Mae’r Rhwydwaith ar agor i unrhyw un sydd yn hyrwyddo, hyfforddi pobl neu yn defnyddio cynllunio wedi’i ganoli ar y person yn eu gwaith neu eu bywyd. Credwn ei bod yn beth da os ydych eisoes wedi cael rhywfaint o hyfforddiant ar sut i ddefnyddio’r agweddau gan fod pawb sydd yn dod i’r cyfarfodydd yn gwybod sut y mae’n gweithio.
Oherwydd bod y rhwydwaith wedi tyfu cymaint mae gennym bellach 2 gyfarfod Cymru gyfan y flwyddyn gyda 3 Grwp Rhanbarthol sydd yn cyfarfod 4 neu 5 gwaith y flwyddyn. Mae’r grwpiau hyn yn cynnwys gogledd, de ddwyrain a chanolbarth a gorllewin Cymru ac mae gwahanol aelodau o’r Rhwydwaith yn eu cynnal.
Yn y cyfarfodydd Cymru gyfan rydym yn tueddu i edrych ar bethau sydd yn effeithio ar/sydd yn gallu helpu pob un ohonom, er enghraifft:
- "Gwersi o Loegr" (Helen Sanderson & co)
- "Cynllunio digwyddiad Cymru gyfan"
- "Risg (sut yr ydym yn cefnogi ymrymuso a bod yn ddiogel?)"
Yn y Cyfarfodydd Rhanbarthol rydym yn ceisio adeiladu cyfleu i ni ymarfer rhywfaint o’r cynllunio wedi’i ganoli ar y person.
I gael syniad da o sut y mae pethau’n gweithio edrychwch ar Agendau a Chofnodion o dan ‘Dogfennau Perthnasol’.
Cysylltu â ni
Mark John Williams, Anabledd Dysgu Cymru, 41 Lambourne Crescent, Parc Busnes Caerdydd, Llanisien, Caerdydd, CF14 5GG
Ffôn: 029 2068 1160




