Darganfod y Gefnogaeth Gywir i Rieni ag Anableddau Dysgu yng Nghymru
Mae dogfen bolisi Llywodraeth Cynulliad Cymru 'Datganiad Polisi ac Ymarfer i Oedolion ag anableddau dysgu' 2007 yn datgan 'Mae pob person ag anabledd dysgu yn ddinasyddion cyflawn, yn gyfartal o ran statws a gwerth i ddinasyddion eraill o'r un oedran'. Mae'r ddogfen yn cydnabod y gall pobl ag anableddau dysgu ddod yn rieni a byddant angen cefnogaeth gan amrywiol asiantaethau i gyflawni'r rôl hon. Mae gan y Cynulliad ddiddordeb yn y nifer o rieni ag anableddau dysgu yng Nghymru, y gefnogaeth y maent yn ei dderbyn ar hyn o bryd a sut i sicrhau bod cefnogaeth dda ar gael i'r holl rieni yng Nghymru.
Darganfu 'Finding the Right Support for parents with learning difficulties' (Tarleton, Ward, Howarth 2006, Baring) fod plant hyd at 50‰ o rieni ag anableddau dysgu ledled y DU yn cael eu cymryd oddi arnynt. Roedd y gefnogaeth oedd ar gael yn ddarniog gydag ambell enghraifft o ragoriaeth yn ymddangos ar ei ben ei hun. Yn aml roedd hawliau'r plentyn a'i rieni i fwynhau bywyd teulu gyda'i gilydd o dan Erthyglau 8,12 a 14 o'r Ddeddf Hawliau Dynol yn aml yn cael eu hanwybyddu. Mae angen darlun manylach o'r sefyllfa gyfredol yng Nghymru er mwyn gallu symud ymlaen.
Nodau'r Prosiect
1. Gweld tua faint o bobl ag anableddau dysgu sydd yn wybyddus i wasanaethau a chysylltiadau sydd yn rhieni, os yw eu plant yn byw gyda nhw ai peidio, mewn dwy sir - Caerffili a Chonwy.
2. Darganfod rhagor am brofiadau dynion a menywod ag anableddau dysgu sydd yn rhieni.
3. Edrych sut gefnogaeth y mae'r rhieni wedi'i dderbyn gan y gwasanaethau a'r bobl broffesiynol y maent yn ymwneud â nhw.
4. Gwneud argymhellion i wella cyflwyniad gwasanaeth i'r grwp hwn yng Nghymru.
Dulliau
1. Caiff holiaduron eu dosbarthu i bob darparydd gwasanaeth a chyrff perthnasol yng Nghaerffili a Chonwy i weld tua faint o rieni ag anableddau dysgu sydd yno. Yn gynwysedig yn hyn bydd amlinelliad byr o sut i adnabod person ag anableddau dysgu i'r bobl broffesiynol hynny sydd yn gweithio yn y gwasanaethau prif ffrwd.
2. Gwneir ymweliadau astudiaethau achos gyda hyd at 10 o rieni i holi am eu profiadau, y gefnogaeth y maent wedi'i dderbyn a beth a ystyrir sydd wedi bod fwyaf defnyddiol.
3. Yna gofynnir am ganiatâd y rhieni i ymweld â'r bobl broffesiynol ac eraill sydd wedi eu cefnogi i gael gwybodaeth am sut y maent wedi bod yn gweithio, sut y mae gwasanaethau'n gweithio gyda'i gilydd a pha gefnogaeth bellach y maent hwy eu hunain ei angen. Mae'r holl gyfweliadau yn cynnig cyfrinachedd llwyr.
Canlyniadau
- Cyflwynir adroddiad i Lywodraeth Cynulliad Cymru o ganfyddiadau'r ymchwil ac argymhellion. Bydd hwn ar gael i'r partion sydd â diddordeb.
- Cyflwynir y canfyddiadau a'r argymhellion mewn cynhadledd yn haf 2009.
- Bydd taflen hygyrch o'r canfyddiadau ar gael i bobl ag anableddau dysgu.
Cyswllt
Am wybodaeth am y prosiect cysylltwch â Joyce Howarth, Ffôn 07531 318 437, Symudol 01633 838672, E-bost joyce.howarth@tpfirst.org.uk, Cyfeiriad: Anabledd Dysgu Cymru, d/o Pobl yn Gyntaf Torfaen, 54 Victoria St, Cwmbran, Torfaen, NP44 3JN.
Taflenni
Rydym wedi cynhyrchu dwy daflen am y prosiect, un i rieni ag anableddau dysgu ac un i bobl broffesiynol. Gallwch lawr lwytho'r taflenni isod (cliciwch ar y dde ar dolen a dewiswch 'Save Target As' i lawr lwytho)
Taflen rhieni - Darganfod y gefnogaeth gywir i rieni ag anableddau dysgu yng Nghymru
Taflen Broffesiynol - Darganfod y gefnogaeth gywir i rieni ag anableddau dysgu yng Nghymru



