Plentyn yn chwarae gyda bricio lliwgar

 

Rhwydwaith Gweithio gyda'n Gilydd gyda Rheini ag Anableddau Dysgu

Mae'r rhwydwaith rhieni ag anableddau dysgu wedi'i anelu at rieni ag anableddau dysgu a'u cefnogwyr. Fel rheol mae mwy o rieni na chefnogwyr mewn cyfarfodydd gyda chymysgedd o rannu gwybodaeth, trafod materion perthnasol a rhannu profiadau a phryderon. Mae'r cyfarfodydd yn rhannu yn 2 grwp o rieni a chefnogwyr am awr neu fwy; dywedir wrth y cefnogwyr am fynd a gwneud y pethau diflas tra rydym ni'n siarad a chael hwyl. Y rhesymau pam fod pobl yn dod i'r cyfarfodydd yw:

  • Cyfarfod rhieni eraill
  • Cynllunio ein cynhadledd
  • Cyfarfod pobl sydd wedi cael yr un profiadau
  • Mae pawb yn teimlo'n gryf eu bod eisiau gwella pethau i rieni ag anableddau dysgu
  • Siarad am bethau pwysig - does unman arall i siarad am rieni
  • Cyfarfod pobl newydd a chael cyngor gan rieni eraill
  • Creu hyder i siarad
  • Gwybod nad ydych ar eich pen eich hun

Cyswllt

Mae gan y rhwydwaith gyfarfodydd ar wahân yng Ngogledd a De Cymru. Ar hyn o bryd maent yn cael eu cyllido gan Sefydliad Baring. Os oes diddordeb gennych mewn ymuno â'r rhwydwaith rhieni cysylltwch â Simon Rees yn Anabledd Dysgu Cymru - cliciwch yma am fanylion cyswllt.

Dyddiadau cyfarfodydd y rhwydwaith

Gwefan Rhwydwaith Rhieni Cenedlaethol

Mae prif wefan Rhwydwaith Gweithio Gyda’n Gilydd gyda Rhieni ag Anableddau Dysgu yn http://www.bristol.ac.uk/norahfry/right-support/index_html - yma gallwch ddarganfod rhagor am waith y rhwydwaith ac adnoddau defnyddiol i rieni ag anableddau dysgu.

 

Stori aelod o'r rhwydwaith (1)

"Cefais dri plentyn pan oeddwn yn fy ugeiniau.

"Aeth gweithwyr cymdeithasol a nhw i ffwrdd oddi wrtha'i pan oedden nhw'n un, dwy a phump oed. Aethon nhw i ffwrdd adeg y Nadolig. Dim ond hanner awr a gawson nhw i agor eu anrhegion.

"Maent yn un ar ddeg, deuddeg a phymtheg nawr. Mae eu henwau wedi newid. Dwi'n anfon cardiau pen blwydd atyn nhw a chardiau Nadolig bob blwyddyn. Mae'r cardiau yn cael eu rhoi mewn blwch - gall fy merched gael y cardiau os ydyn nhw'n gofyn amdanynt. Gofynnodd fy merch ganol am ei chardiau eleni. Dywedodd fy nghyfreithiwr na ddylwn fod yn rhy obeithiol.

"Pan gollais fy mhlant dechreuais niweidio fy hun. Bu bron i mi dorri' lawr. Roedden nhw eisiau i mi fynd i'r ysbyty ond dywedodd fy mam, 'Na!' ac edrychodd ar fy ôl. Dwi wedi adeiladu fy hun yn ôl eto."

Stori aelod o'r rhwydwaith (2)

"Mae gennyf 2 blentyn. Mae fy un hynaf yn iawn, dim problem. Mae gan fy ieuengaf anabledd dysgu. Mae ganddo broblemau clyw hefyd ac mae bob amser yn hynod o brysur! Dwi'n siwr fod ganddo ADHD.

"Mae bod yn rhiant wedi bod yn eithaf anodd. Mae gwneud gwaith cartref gyda'r plant wedi bod yn anodd, ond mae pethau wedi gwella ers i mi fynd i'r coleg i ddysgu darllen ac ysgrifennu. Dylai unrhyw un sydd â phroblemau fel fi gyda darllen ac ysgrifennu ymuno â chwrs coleg - mae yn helpu.

"Dwi'n cael ychydig o gefnogaeth gan y gwasanaethau cymdeithasol - gallant fod yn ddefnyddiol iawn ond gallant fod yn niwsans weithiau hefyd! Maent yn gallu bod yn ddefnyddiol wrth fy nghefnogi i gadw'r tý yn daclus a choginio prydau bwyd iach i'r teulu. Gallant fod yn niwsans pan fyddant yn dweud wrtha'i beth i'w wneud a sut i fyw fy mywyd!

"Os oes un peth y buaswn yn ei newid fyddai cael gwared ar anableddau fy mab. Byddai hynny yn ei gwneud yn haws i mi ymdopi."

 

Prosiect Ymchwil

Mae Anabledd Dysgu Cymru yn cynnal ymchwil i'r nifer o rieni ag anableddau dysgu sydd yng Nghymru, y gefnogaeth y maent yn ei dderbyn ar hyn o bryd a beth sydd yn gwneud cefnogaeth dda i rieni yng Nghymru.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am y prosiect ymchwil.