North East Wales Self Advocacy

HE GDdC (Hunan Eiriolaeth Gogledd Ddwyrain Cymru)

Ystyr NEWSA yw North East Wales Self Advocacy, neu Hunan Eiriolaeth Gogledd Ddwyrain Cymru. Mae’r tair sir sy’n cael eu cynrychioli gan Systems Advocacy Service (SAS) neu Wasanaeth Eiriolaeth Systemau hefyd yn cael eu cynrychioli gan NEWSA, ond mae’r gwaith a gyflawnir yn wahanol – mae’r ffocws ar alluogi unigolion i siarad drostynt eu hunain.

Mae llawer o hyn yn cael ei gyflawni trwy’r gwaith a wneir yn y grwpiau eiriolaeth, trwy gyfrwng y canlynol:

  • Gwybodaeth berthnasol
  • Hwyluso eu cyfarfodydd hunan eiriolaeth
  • Hyrwyddo’u sgiliau
  • Eu hybu i gydweithio fel tîm
  • Sicrhau bod ganddynt gynrychiolaeth a chefnogaeth briodol mewn cyfarfodydd a bod unrhyw benderfyniad neu ymgynghoriad yn cael ei wneud GYDA nhw ac nid iddyn nhw
  • Caniatau ffordd ddemocrataidd iddyn nhw ethol aelod addas o’r grw^p i fod yn ddolen gyswllt hanfodol rhwng gwasanaethau ac oedolion gydag anableddau dysgu
  • Rhoi amser a pharch i unigolion weithio yn ôl eu pwysau, gan sylweddoli y bydd yn cael ei golli os yw’r cyfarfod yn cael ei frysio er mwyn siwtio anghenion gwasanaethau.

Un canlyniad o fod yn aelod o grw^p NEWSA yw fod gwybodaeth, cydnabyddiaeth a chynhwysiad yn arwain at hunan hyder. Does dim gwell teimlad na bod yn aelod gwerthfawr o’n cymuned. Mae pawb yr un peth, anabledd ai peidio.

Yn siroedd Wrecsam, Fflint a Dinbych mae gennym aelodau o’r grwpiau hunan-eirioliaeth sydd yn aelodau etholedig yn chwarae rhan yng nghyfarfodydd cynllunio strategol eu cyngor sir lleol. Mae gennym hunan-eiriolydd sy’n hwyluso a threfnu’r cyfarfodydd.

Mae’r gweithiwr datblygu yn chwarae rôl mwy cefnogol er mwyn gwneud y cyfarfodydd yn haws i’r defnyddiwr – h.y. peidio â defnyddio jargon a thalfyrru, galluogi i’r unigolyn wneud gwell synnwyr o’r wybodaeth fel y gallant fod yn aelod ystyrlon sy’n cymryd rhan weithredol.

Cyfathrebu-gwybodaeth-lledaeniad yw agweddau crai y gwaith a dyma sy’n arwain at ddatblygiad i’r dyfodol. Mae Sir Ddinbych wedi deall hyn ac wedi cyflogi rhywun rhan amser yn benodol ar gyfer y gwaith yma.

Os oes gennych ymholiadau’n ymwneud â phrosiectau cysylltwch â ni os gwelwch yn dda.