Aelodaeth
Mae Anabledd Dysgu Cymru yn bwriadu creu Cymru sy'n gwerthfawrogi a chynnwys pob plentyn ac oedolyn gydag anabledd dysgu.
Mae'r manteision o ddod yn aelod yn cynnwys:
- Cylchgrawn Llais - Cylchgrawn chwarterol dwyieithog gydag erthyglau yn nodi'r trafodaethau diweddaraf ac arfer da
- Llais Update - Diweddariad pedair tudalen misol gyda newyddion, mentrau polisi a rhestrau
- E-Newyddion - Newyddion a gwybodaeth reolaidd yn syth i'ch mewnflwch ebost
- Gwasanaeth Gwybodaeth - Cysylltwch â'n tîm gwybodaeth neu ewch i'n llyfrgell am wybodaeth a chymorth cyfeirio
- Hyfforddiant a Digwyddiadau pris isel - Hyd at 30% i ffwrdd ar hyfforddiant a digwyddiadau sy'n cefnogi hawliau ac yn annog arfer sy'n canolbwyntio ar y person mewn gwasanaethau
- Cyhoeddiadau cost isel - Hyd at 30% i ffwrdd ar bris cyhoeddiadau
- Llogi ystafelloedd cyfarfod pris isel - 10% oddi ar ffioedd llogi ystafelloedd
- Rhwydweithio - Rydym yn dod â mudiadau tebyg at ei gilydd i weithio, dysgu a rhannu
- Rheoli - Cael eich enwebu i fod yn ymddiriedolwr ar ein Pwyllgor Rheoli
- Dylanwadu - Hawliau pleidleisio llawn yn ein CCB
- Cynrychioli - Byddwn yn cynrychioli eich buddiannau mewn rhwydweithiau a chyfarfodydd. Byddwn yn ymgynghori â chi a chyfleu eich barn i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau.
* Dim ond ar gael i Aelodau Llawn
Mae gennym 5 math o Aelodaeth
Cwblhewch y ffurflen aelodaeth sy'n gymwys i chi a'i dychwelyd i Anabledd Dysgu Cymru.
Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon ar gael i'w llwytho i lawr fel taflen.
Aelodaeth lawn
Agored i fudiadau a grwpiau nad er elw sy'n gweithio yng Nghymru. Bydd angen i chi gefnogi ein nodau a'n gweithgareddau a rhannu ein hymrwymiad i'n 'Datganiad Hawliau a Gwerthoedd Allweddol i bobl ag anabledd dysgu'. Gall hyn gynnwys: mudiadau gwirfoddol; mentrau cymdeithasol; grwpiau, clybiau a chymdeithasau.
I wneud cais, llwythwch y ffurflen Aelodaeth Lawn i lawr
Aelodaeth unigol
Agored i unrhyw unigolyn yn ymuno yn bersonol. Gall hyn gynnwys: rhiant neu ofalwr; person gydag anabledd dysgu neu; rywun â diddordeb yn y maes hwn.
I wneud cais, llwythwch y ffurflen Aelodaeth Unigol i lawr
Aelodaeth statudol
Agored i'r sector statudol. Gall hyn gynnwys: adrannau gwasanaethau cymdeithasol plant; gwasanaethau cymdeithasol oedolion; Adrannau ysgolion ac addysg; byrddau iechyd lleol; addysg bellach; addysg uwch.
I wneud cais, llwythwch y ffurflen Aelodaeth Statudol i lawr
Aelodaeth fasnachol
Agored i fudiadau nid er elw sy'n gweithio y tu allan i Gymru.
I wneud cais, llwythwch y ffurflen Aelodaeth Fasnachol i lawr
Aelodaeth y tu allan i Gymru
Agored i fudiadau er elw.
I wneud cais, llwythwch y ffurflen Aelodaeth y Tu Allan i Gymru i lawr



