The Life Options Project logo

The Life Options Project

Datblygodd Anabledd Dysgu Cymru’r prosiect LIFE OPTIONS rhwng Chwefror 2001 a Mawrth 2004 gyda chyllid cychwynnol am 3 blynedd gan ‘Diana, Princess of Wales Memorial Fund’.

Roedd y prosiect yn golygu ffyrdd newydd o gydweithio gyda phobl ifanc gydag anableddau dwys a chymhleth er mwyn cynllunio ar gyfer eu dyfodol.

Mae’r Prosiect yn Parhau...

O dan Gynllun Grantiau Eiriolaeth BILD mae’r prosiect wedi derbyn cyllid pellach. Bydd hyn yn golygu y bydd yr Eiriolwyr Trawsnewid rhan amser Stephanie Harnett yn gweithio gydag 20 o bobl ifanc rhwng 16-25oed yn sir Gaerfyrddin.

Contact Us

Os oes gennych ymholiadau’n ymwneud â phrosiectau cysylltwch â ni os gwelwch yn dda.

Wal Storiau

Mae’r ‘wal storiau’ yn swyddfa “Dewisiadau Bywyd” yn cynnwys darnau byr o straeon trawsnewid bywyd go iawn, y gall ymwelwyr gael mynediad atynt trwy edrych yn y ‘ffeil Storiau’ am y fersiwn llawn. Mae nifer o deuluoedd sy’n paratoi at drawsnewid, neu sydd eisoes yn ei brofi, yn gweld y wal storiau fel dyfais werthfawr i gael mynd at galon trawsnewid o safbwynt personol.

Mae llwyddiant y gwasanaeth yn dibynnu ar gyfraniadau gan deuluoedd sydd yn fodlon rhannu eu profiadau o drawsnewid i fyd oedolion er mwyn helpu eraill i ddysgu. Gall straeon fod yn bositif neu yn negyddol, cyn belled â’u bod yn adlewyrchu realiti’r broses drawsnewid i chi a’ch teulu. Os ydych yn paratoi am drawsnewid, yn ei chanol hi, neu yn myfyrio nôl ar y profiad, neu os ydych yn gweithio yn y maes, fe hoffai Life Options glywed gennych chi

Y math yna o fywyd?

Ffrindiau yw’r gofod mwyaf. Achos dwi’n gwybod sut mae Lois pan ddaw grw^p o ferched i mewn. Dwi’n gallu gweld ei hagwedd yn newid, mae ganddi ddiddordeb ac mae hynny’n fy ngwneud i’n drist. Ond dwi ddim wir yn gwybod sut i newid dirnadaeth pobl.

(Ffrindiau a Chefnogaeth – Dogfen 1)

Gwireddu’r Breuddwydion – Gemma a Katy

Dyma stori am fy merch, Gemma a’i ffrind, Katy. Mae nhw’n 21 a 22 oed ac mae ganddyn nhw anableddau dysgu dwys a chymhleth.......Mae nhw wedi bod yn byw yn annibynnol am tua 18 mis nawr. Dyna’r peth gorau allen ni fod wedi ei wneud a does dim dyfaru...mae bywydau Gemma a Katy bellach heb eu hail.

(Eich Cartref – Dogfen 2)

Ymddiriedolaeth Bywyd Annibynnol David

Mae ein mab David yn awtistig ac mae ganddo anabledd dysgu dwys. Mae’n 19 oed, Rydym yn gobeithio y bydd yn symud i dy rhent cyn bo hir...bydd yn cael cefnogaeth i fyw yn ei gartref gan gynorthwywyr personol....rydym yn sefydlu Ymddiriedolaeth fydd yn cyflogi’r cynorthwywyr personol gan ddefnyddio arian o’r Ymddiriedolaeth Bywyd Annibynnol, Taliadau Uniongyrchol gan yr Awdurdod Lleol a chyllid arall.

(Eich Cartref – Dogfen 4)

Lefel Addas o Gefnogaeth

Roedd un defnyddiwr gwasanaeth gydag anghenion arbennig o gymhleth wedi cael canllawiau bod yn rhaid iddo gael dau aelod o staff yn bresennol pryd bynnag yr ai allan i’r gymuned..wrth i bobl ddod i’w nabod e’n well roedd hi’n amlwg bod y canllawiau hyn yn rhwystredigaeth iddo.

(Cefnogaeth Iechyd Da – Dogfen 1)

Stori Razia

Roeddwn i’n cael trafferth gwybod pa ffordd i fynd gyda Razia. Unwaith, mewn cyfarfod yn fy swyddfa, fe geisiais ddarganfod mwy yngly^n â pha waith y gallai hi fod yn dda yn ei wneud ac fe daflais i glwtyn glanhau ati hi. Fe’i taflodd yn ôl ata i, yn anniddig iawn. Roeddwn i’n dechrau dysgu beth oedd yn ei hysgogi! Yn ystod fy ymweliadau a’r ganolfan ddydd, fe sylwais fod Razia yn aml yn dal darn o bapur a beiro yn ei llaw. Cefais y syniad efallai y byddai hi yn mwynhau pethau yn ymwneud â phapur, er nad oedd hi’n ysgrifennu.

(Gweithio – Dogfen 1)