Dweud Eich Dweud
CD-Rom rhyngweithiol newydd sbon ar gyfer awdurdodau lleol a chyrff cynyddol gyda chyfrifoldeb am ddatblygu a darparu gwasanaethau ar gyfer pobl ag anableddau dysgu yw Dweud Eich Dweud.
Mae’r CD-Rom, sy’n hawdd i’w lywio, yn cynnig cyflwyniad gwybodus i gynnwys pobl gydag anableddau dysgu mewn cynlluniau ar gyfer gwasanaethau. Ceir cyfweliadau gyda defnyddiwr gwasanaethau, darparwr gwasanaethau, eiriolydd a hyfforddwr dulliau wedi eu canoli ar y person wrth iddynt egluro buddiannau cymryd rhan.
Ceir hefyd adrannau ar Gynllunio wedi ei Ganoli ar y Person a Gwybodaeth Hygyrch gyda dolenni i adnoddau defnyddiol. Mae wedi ei gynllunio i fod o gymorth i gyrff cynllunio gwasanaethau ac fe ellir ei ddefnyddio fel teclyn hyfforddi a gwybodaeth.
Aelodau: £10 Dim yn aelod ac awdurdodau lleol: £15





