Llanfrechfa Grange

Llanfrechfa Grange

Ers bron i chwe blynedd mae Tony Pape wedi darparu eiriolaeth annibynnol yn ysbyty Llanfrechfa Grange.

Yn ystod y cyfnod yma fe ddarparwyd ystod eang o wasanaethau gan gynnwys cynrychiolaeth unigol, yn ymwneud ag unrhyw faterion hawliau dynol; cynrychiolaeth gyfunol yn ymwneud â materion yngly^n â safon h.y. mwy o fynediad i’r gymuned lleol; mynediad i gyfleusterau gofal dydd a datblygu dulliau ymarfer wedi ei ganoli yn fwy ar y person.

Mae’r gwasanaeth eiriolaeth hefyd wedi darparu hyfforddiant yn ymwneud â materion eiriolaeth, cyfathrebu a chynllunio wedi ei ganoli ar y person.

Rydym yn dal yn rhan o’r prosiect cau ysbytai ac mae gennym fewnbwn i reolaeth clinigol ac unrhyw fforwm yn ymwneud â materion safon.

Mae Tony wedi bod yn llwyddiannus iawn yn helpu pobl i symud i lety amgen ac ar hyn o bryd mae’n cynnig cefnogaeth i bobl sy’n byw yn yr ysbyty ac i’w staff yn ymwneud â chynllunio trawsnewid.

Yn ddiweddar mae Tony hefyd wedi bod yn rhan o sefydlu a datblygu panel defnyddiwr gwasanaeth i Went, mewn partneriaeth gyda seicolegydd fel rhan o gynllun cynhwysiad cleifion a’r cyhoedd.

Yn fwy diweddar mae Tony wedi ymgymryd a phrosiect cynllunio hunan ganolig am ddau ddiwrnod yr wythnos ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol Sir Fynwy.

Ar hyn o bryd mae pwyslais eiriolaeth Llanfrechfa Grange ar gynllunio trawsnewid a diogelu daioni’r bobl sy’n dal yn byw yno.

Os oes gennych ymholiadau’n ymwneud â phrosiectau cysylltwch â ni os gwelwch yn dda.