Dyn ifanc mewn garej

 

Anabledd Dysgu Cymru Digwyddiadau

Mae Anabledd Dysgu Cymru eisiau gwneud yn siwr bod ein holl aelodau yn gwybod beth sy'n digwydd ym myd anabledd dysgu neu iechyd a gofal cymdeithasol. I wneud hynny rydym yn trefnu digwyddiadau unigol lle y gallwn rannu darn o ymarfer gorau a digwyddiadau ymgynghori lle mae pobl yn cael y cyfle i fynegi eu barn ar bolisi sy'n cael ei ddatblygu. Rydym hefyd yn cynnal Cynhadledd Flynyddol bob blwyddyn sydd yn rhoi cyfle i bobl dreulio diwrnod cyfan yn ystyried pwnc neu thema yr ydym yn meddwl bod gan ein haelodau ddiddordeb ynddynt.

 

 

Cyrsiau Hyfforddi

 

Gwneud Gwybodaeth yn Hawdd i’w Ddarllen

a’i Ddeall

12 Hydref 2011 yng Nghasnewydd

14 Hydref 2011 yn Wrecsam

Bydd y cwrs undydd hwn yn eich cynorthwyo i ddeall sut i wneud gwybodaeth ysgrifenedig a phrintiedig yn fwy hygyrch i bobl ag anableddau dysgu. Rhagor

 

Cysylltu â’r Gymuned

14 Tachwedd 2011 yng Nghasnewydd.

Nod y cwrs hwn yw cynorthwyo pobl ag anableddau dysgu, a’r rhai sydd yn eu cefnogi, i ddysgu sut i ‘gael bywyd’! Rhagor

 

Budd-daliadau a Gwaith i Bobl Anabl

22 Tachwedd 2011 yn Abertawe

29 Chwefror 2012 yn Wrecsam

Cwrs diwrnod i’ch helpu chi i ddeall y system fudd-daliadau a sut y mae’n gweithio ar gyfer pobl anabl sy’n gweithio. Rhagor

 

Cyfathrebu Trwy Gyffwrdd

23 Tachwedd 2011 yng Caerdydd

Bydd y gweithdy undydd hwn yn cynorthwyo’r rhai sydd yn gofalu am rhywun gydag

Anhwylder Sbectrwm Awtistig i ddefnyddio cyffwrdd i helpu cyfathrebu, ymlacio a lliniaru straen a phryder. Rhagor

Cynllunio Dyfodol Unigol trwy Ddefnyddio

7 Rhagfyr 2011 yng Nghaerfyrddin
27 Chwefror 2012 yng Nghaerdydd
26 Mawrth 2012 yn Llandudno

Bydd y gweithdy hanner diwrnod hwn yn dangos sut y mae defnyddio amlgyfryngau ar gyfer y bobl yr ydym yn eu cefnogi yn gwneud gwahaniaeth enfawr. Rhagor

Trosedd Casineb - mynd i’r afael â’r broblem

12 Rhagfyr 2011 yng Caerdydd

(Cynnig arbennig ffioedd cwrs)

Hyfforddiant dydd hanfodol ar sut i gefnogi pobl ag anableddau dysgu i adnabod ac ymateb i drosedd casineb. Rhagor

 

Deall y Newidiadau i’r System Fudd-Daliadau

10 Ionawr 2012 yn Wrecsam
26 Ionawr 2012 yn Abertawe

Cwrs diwrnod i’ch helpu i ddeall sut y mae’r system Fudd-daliadau yn newid. Rhagor

 

Deall Pobl ag Anableddau Dysgu

17 Ionawr 2012 yn Port Talbot
22 Chwefror 2012 yn Wrecsam

Cwrs undydd i’ch helpu i ddeall bywydau ac anghenion pobl ag anableddau dysgu. Rhagor

Perthynas Bersonol a Rhywioldeb

18 Ionawr 2012 yng Nghaerdydd

Nod y cwrs hwn yw eich cynorthwyo i ddeall eich rôl mewn cefnogi oedolion gyda’u perthynas a’u rhywioldeb.

Rhagor

 

Deall Polisi Plant

21ain Mawrth 2012 - Caerdydd

Bydd y cwrs undydd hwn yn helpu cyfranogwyr i ddeall yr amrediad o bolisïau sydd yn effeithio ar blant a phobl ifanc yng Nghymru. Rhagor

Am ragor o wybodaeth ffoniwch neu ebostiwch Inacia Rodrigues 02920681160