Darparwyr Plant
Mae creu’r cychwyn cywir i blant mewn bywyd, i chwarae, dysgu, tyfu’n gorfforol, yn emosiynol ac yn gymdeithasol, i ffurfio cyfeillgarwch, i gael hyder a sgiliau, yn bwysig i bob plentyn. Gall plant a phobl ifanc ag anableddau dysgu fod angen cymorth neu gefnogaeth neilltuol i sicrhau y gallant deithio ar hyd y llwybr hwn yn llwyddiannus.
Mae nifer o aelodau Anabledd Dysgu Cymru yn darparu gwasanaethau a chefnogaeth sydd yn cynorthwyo’r plentyn neu’r person ifanc ag anabledd dysgu i ddatblygu. Mae cymorth yn cynnwys mabwysiadu a maethu, ymyrraeth cynnar i gefnogi’r plentyn a’r rhiant, gofal cyn ysgol, gofal tymor byr, cynllunio wedi’i ganoli ar y person, cyngor a chyflafareddu ar ddarpariaeth addysg arbennig, darpariaeth therapi, eiriolaeth, hyfforddiant galwedigaethol a gweithgarwch hamdden a chwaraeon.
Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi bod yn weithgar iawn o ran datblygu gofal plant, gofal cymdeithasol a pholisïau iechyd ‘generig’; yr her i’r sector gwirfoddol yw sicrhau bod y polisïau generig hyn yn mynd i’r afael yn llawn ag anghenion y plentyn a’r person ifanc ag anableddau dysgu. Ar faterion o anghenion addysgol arbennig mae’r Cynulliad wedi bod yn llai gweithgar ac mae gweithgarwch ymgyrchu yn datblygu’n raddol yng Nghymru.
Hyd yn hyn nid oes yr un rhwydwaith wedi bodoli lle y mae aelodau Anabledd Dysgu Cymru yn y gymuned fuddiant hon wedi gallu dod ynghyd i gan9lbwyntio ar anghenion plant a phobl ifanc ag anabledd dysgu.
Bellach mae lle i fod yn optimistaidd iawn am ddyfodol cefnogaeth Anabledd Dysgu Cymru i faterion a chyrff sydd yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc ag anableddau dysgu. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf barnodd ymddiriedolwyr Anabledd Dysgu Cymru y dylai’r corff fuddsoddi rhai o’i arian wrth gefn i gefnogi’r sector hwn yn well trwy greu swydd datblygu yn arbennig i faterion yn ymwneud â phlant a phobl ifanc.
O ganlyniad i hyn recriwtiodd Anabledd Dysgu Cymru Zoe Richards fel Swyddog Datblygu Plant a Phobl Ifanc. Rhan o waith Zoe fydd dechrau trefnu’r sector plant a phobl ifanc yn ‘gymuned fuddiant’ Anabledd Dysgu Cymru.
Mae Anabledd Dysgu Cymru wedi bod yn weithgar yn cefnogi lansio ymgyrch Mae Pob Plentyn Anabl yn Cyfrif yng Nghymru. Mae gan yr ymgyrch hon, a ddechreuwyd yn Lloegr gyda chyllid Sefydliad Sainsbury ac wedi’i arwain gan Cysylltu â Theulu, Mencap a Chyngor dros Blant Anabl, y potensial i yrru hawliau plant anabl i fyny'r agenda wleidyddol. Mae’n debygol y bydd aelodau eraill cymuned fuddiant o gwmpas plant a phobl ifanc Anabledd Dysgu Cymru yn cymryd rhan yn yr ymgyrch hon yn y misoedd nesaf.
Mae Anabledd Dysgu Cymru wedi ymgyrchu ar y broses o bontio. Cyfrannodd dystiolaeth ysgrifenedig i adolygiad pwyllgor Addysg Dysgu Gydol Oes a Sgiliau’r Cynulliad ar bontio. Daeth Anabledd Dysgu Cymru i’r casgliad bod pobl ifanc ag anableddau dysgu yn cael eu trin fel myfyrwyr israddol pan mae’n dod i hyfforddiant galwedigaethol, profiad gwaith a darganfod swyddi.
Am ragor o wybodaeth ar rôl y Swyddog Datblygu Plant a Phobl Ifanc Cysylltwch â Ni.
Ein hymddiriedolwr Darparwyr Plant yw Roger Bishop o Tros Gynal. i gysylltu ag ef, cliciwch yma.




