A man reading

Siartr o Hawliau Unigol i Bobl ag Anabledd Dysgu

Er mwyn bod yn effeithiol ac yn bwrpasol yn ei waith mae Anabledd Dysgu Cymru wedi gosod datganiad clir o'i egwyddorion, sydd yn diffinio hawliau unigol ar gyfer pobl ag anabledd dysgu a datblygiad y gwasanaeth yn canolbwyntio ar yr unigolyn.

Rydym yn derbyn y datganiadau a wneir gan y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Dynol, Hawliau Pobl a Nam Meddyliol a Hawliau Plant. Rhaid i'r rhain fod yn sail i unrhyw arddeliad o hawliau gan bobl ag anabledd dysgu. Rydym hefyd yn cydnabod pwysigrwydd y tri prif egwyddor a nodir yn Strategaeth ar gyfer Pobl ag Anfantais Feddyliol Cymru Gyfan (Anabledd Dysgu). Yn ôl y rhain mae gan bobl ag anabledd dysgu:

  • yr hawl i fyw bywyd cyffredin yn y gymuned
  • yr hawl i gael eu trin fel unigolion
  • yr hawl i gymorth a chefnogaeth ychwanegol i ddatblygu i'w llawn potensial

Gan adeiladu ar athroniaeth Strategaeth Cymru Gyfan, credwn fod gan bob unigolyn ag anabledd dysgu yr hawl i:

  1. Datblygu eu gallu corfforol, cymdeithasol, emosiynol, ysbrydol a deallusol i'r eithaf posib.
  2. Addysg, hyfforddiant a chefnogaeth unigol.
  3. Awdurdod dros bob agwedd o'u bywyd.
  4. Mwynhau agweddau yn eu bywyd bob dydd sydd yn cael eu gwerthfawrogi yn ddiwylliannol yn y gymuned lleol.
  5. Gallu gwasanaethu'r gymuned.
  6. Sicrwydd economaidd a safon byw digonol.
  7. Patrwm bywyd annibynnol.
  8. Lleisio barn yn bersonol neu drwy eiriolydd.
  9. Cyfleon i ailasesu eu hanghenion a'u gofynion.
  10. Chwarae rhan lawn a rôl barhaol wrth gynllunio'r gwasanaeth a dderbyniant.

Ble bo'n angenrheidiol cwtogi ar hawliau'r unigolyn, rhaid i'r dull y gwneir hynny fod y lleiaf rhwystredig o'r dewis ar gael.

Yr Unigolyn a Gwasanaethau

Credwn fod yn rhaid i gynllunio, rheolaeth, cyflwyno ac adolygiaeth y gwasanaeth gael ei nodweddu gan y canlynol:

  1. Mae gan bobl ag anabledd dysgu yr hawl i fod yn bartneriaid llawn wrth gynllunio, rheoli, cyflwyno ac adolygu'r gwasanaeth.
  2. Mae gan bobl ag anabledd dysgu yr un hawl ag aelodau eraill y gymuned i wasanaeth sy'n cefnogi safon bywyd rhesymol.
  3. Dylai gwasanaethau hyrwyddo annibyniaeth a hybu unigolion i wneud cyfraniad teg i fywyd y gymuned. Dylid edrych ar ddewis a chymryd risgiau fel caffaeliad i dyfiant personol.
  4. Dylai gwasanaethau hyrwyddo integreiddio corfforol a chymdeithasol i'r eithaf trwy annog cyfraniad i fywyd y gymuned gan bobl ag anabledd dysgu.
  5. Dylai gwasanaethau sydd ar gael i bawb yn y gymuned yn gyffredinol gael eu haddasu i sicrhau mynediad gan bobl ag anabledd dysgu.
  6. Dylid ond cynnig gwasanaethau atodol i gwrdd ag anghenion a dymuniadau unigol.
  7. Dylid ceisio gwasanaethau ar gyfer yr unigolyn ar sail asesiad traws-ddisgyblaethol a thraws-asiantaethol o anghenion.
  8. Dylid darparu gwasanaethau i bobl ag anabledd dysgu mewn modd sydd yn galluogi unigolion aros yn eu cymuned leol a pheidio gorfod teithio yn rhy bell i dderbyn y gwasanaethau.
  9. Mae yn well i bobl ag anabledd dysgu a'u teuluoedd os nad yw darpariaeth gwasanaethau yn dod o un corff yn unig ac nad oes gan un corff reolaeth dros pob agwedd o'u bywydau.
  10. Dylai pob gwasanaeth fod yn rhwym wrth arolygaeth fewnol systematig ac archwiliad allanol.