A boy on bicycle talking to friend

Lobio ac Ymgyrchu

Mae creu Cymru sydd yn gwerthfawrogi plant ac oedolion ag anableddau dysgu yn golygu bod gan Anabledd Dysgu Cymru gyfrifoldeb allweddol i weithio gyda llunwyr polisi ac asiantaethau statudol ar lefel Cymru, DU ac Ewropeaidd. Mae ein hamrediad o gyrff sydd yn aelodau yn rhoi darlun unigryw i ni o'r rhwystrau sydd yn wynebu plant ac oedolion ag anableddau dysgu. Defnyddiwn y darlun hwn a cheisiwn wella polisiau neu creu rhai newydd lle y gallwn nodi bylchau.

Rydym hefyd yn hyrwyddo buddiannau arbennig y sector gwirfoddol a'r cyfraniad arbennig y gall wneud i gymdeithas sifil yng Nghymru. I ddilyn ein cenhadaeth rydym felly yn cymryd rhan mewn nifer o rwydweithiau a chyfarfodydd.

O dan ddylanwad adborth gan ein haelodau mae ymddiriedolwyr Anabledd Dysgu Cymru wedi cytuno ar ein blaenoriaethau ymgyrchu ar gyfer 2007/08, sef:

Mae Plant Anabl yn Cyfrif Cymru

Gweithio gyda'n partneriaid craidd, Plant yng Nghymru, Cysylltu â Theulu a Mencap Cymru i gael mwy o gefnogaeth i blant anabl. Am ragor o wybodaeth cliciwch yma.

Pobl Ifanc 14-18 oed

Gweithio gyda phartneriaid yn y grwp Mynediad i Gyflogaeth i gael mwy o gyfleoedd profiad gwaith a hyfforddiant galwedigaethol wedi'i ganoli ar y person i bobl ifanc. Am ragor o wybodaeth cliciwch yma.

Comisiynu a Gwerthoedd

Rydym eisiau gweithio gyda phartneriaid yn yr asiantaethau statudol a gwirfoddol i gryfhau ymarfer comisiynu mewn gofal cymdeithasol a sicrhau bod ymarfer yn cael ei ategu gan well ymroddiad i sylfaen gwerthoedd clir a darpariaeth o ansawdd.

Byddwn hefyd yn rhoi cefnogaeth i fentrau i leihau graddau'r lleoliadau 'allan o'r sir' i unigolion.

Mae gennym ein blog Anabledd Dysgu Cymru ein hunain erbyn hyn.

Yma gallwch wybod beth yw'r diweddaraf o ran ein lobio a'n hymgyrchu - yn ogystal â digwyddiadau a gweithgareddau eraill - trwy waith ein Cyfarwyddwr Jim Crowe a Chyfarwyddwraig Cynorthwyol Kate Young.

I fynd i blog Anabledd Dysgu Cymru, cliciwch yma.

I drafod unrhyw un o'n hymgyrchoedd neu weithgareddau neu i siarad gyda ni am ymgyrch neu weithgarwch y teimlwch y gallem eu helpu, cysylltwch â ni.

.