
18 Hydref 2011 - Abertawe
Cynhadledd Flynyddol Anabledd Dysgu Cymru - yn ymwneud â grymuso pobl ag anableddau dysgu.
Cyflwyniadau a chofnodion graffig gan y Prif Siaradwyr
Cyfwyniadau a graffig ar gael yn Saesneg yn unig.
Lansio Iechyd Hawdd Cymru
Darparodd staff o Iechyd Hawdd Cymru drosolwg o'r wefan newydd yn darparu gwybodaeth hygyrch i bobl ag anableddau dysgu a'u tauluoedd am iechyd a lles yng Nghymru.
Cliciwch yma i fynd i'r wefan.
Cliciwch ar y graffig i weld fersiwn fwy.
Mynegi eich Barn
Darparodd Mandy Williams o Cyfranogi Cymru drosolwg o 10 Egwyddor Ymgysylltiad Cyhoeddus.
I weld cyflwyniad Mandy, clicwch yma.
Cliciwch ar y graffig i weld fersiwn fwy.
Arwain mewn Addysgu Ymchwil
Esboniodd Victoria Jones o Uned Datblygiad mewn Anableddau Deallusol (UDID) ym Mhrifysgol Morgannwg a Lynne Evans o Bwyllgor Ymgynghoral Addysgu ac Ymchwil (TRAC) ym Mhrifysgol Morgannwg o Phobl yn Gyntaf Rhondda Cynon sut y mae Pwyllgor Ymgynghorol Addysgu ac Ymchwil yn cynghori Prifysgol Morgannwg ar addysgu ac ymchwil sydd yn ymwneud â phobl ag anableddau.
I weld cyflwyniad TRAC, clicwch yma.
Cliciwch ar y graffig i weld fersiwn fwy.
Ymgyrchu dros y Groesfan
Rhannodd Laura Wilson ei stori ei hymgyrch i gael croesfan i gerddwyr ger ei chartref.
I ddarllen erthyglau papur newydd am ymgyrch Laura, cliciwch yma.
Cliciwch ar y graffig i weld fersiwn fwy.
Mynegi Barn a Gwneud Gwahaniaeth
Rhannodd aelodau Grŵp ymgynghorol DRIVE fideo a wnaethant ar sut y maent yn cymryd rhan yn y grŵp a'r hyn mae hynny yn ei olygu iddynt.
Cliciwch ar y graffig i weld fersiwn fwy.
Gweithdai
Cyfleu eich Neges
Darparodd Gwilym Morris o’r Pollen Shop weithdy rhyngweithiol i’r holl gynrychiolwyr i gael unigolion i feddwl am sut y gallant fod yn fwy llwyddiannus mewn cyfarfodydd pwysig a mynegi eu safbwynt.
Cliciwch yma i weld y 3 cam syml.
Cliciwch ar y graffig i weld fersiwn fwy.
Comisiynu - Gwneud hynny'n Gywir
Hwylusir gan Jenny Davies a Pip Dimmock o Wasanaeth Cyfranogi Abertawe gyda Lisa Banks o Gyngor Sir Abertawe.
I lawr lwytho’r ddogfen hawdd i’w darllen, Comisiynu a Mi, sydd yn esbonio beth ydy comisiynu a sut y gallwch gymryd rhan, cliciwch yma.
Yn Addas i'r Swydd
Hwylusir gan Julie Davies a Karin Phillips o Gonsortiwm Bywydau Cymunedol
Pecyn Comorth ar gyfer Cyfranogi
Hwylusir gan staff a myfyrwyr o Goleg Derwen
Roedd y gweithdy hwn yn edrych ar sut i ddweud beth yr ydych ei eisiau a gwneud i hynny ddigwydd. Bu myfyrwyr yn rhannu eu profiad o gymryd rhan yng Nghyngor Myfyrwyr Coleg Derwen, cliciwch yma i weld fideo am Gyngor Myfyrwyr Coleg Derwen, cliciwch yma i weld fideo am Gyngor Myfyrwyr Coleg Derwen.
Dechrau gyda Fi - Dylunio Gwasanaeth Unigol
Hwylusir gan Carol Eveson o reach gyda Rob Wait.
Rhannodd Rob ei brofiadau a dweud sut y mae Dylunio Gwasanaeth Unigol wedi ei gefnogi i symud ymlaen a byw’r bywyd y mae ei eisiau.
Cliciwch yma i weld y cyflwyniad.
Adborth gan gynrychiolwyr am y rhan gorau o’r diwrnod ...
" Cyfarfod pobl – dysgu am beth sy’n digwydd – cymryd rhan."
" Y cyfan yn ddefnyddiol iawn ac yn ysbrydoledig!"
" Y cyflwyniadau gan gyrff gwahanol."
" Gwrando ar yr hyn y mae pobl ag anableddau dysgu wedi’i gyflawni."
" Dysgu am y problemau y mae pobl ag anableddau yn eu wynebu yn eu bywydau."
Cofnodion graffig gan 







