All Wales Learning Disability Advocacy Network

Rhwydwaith Eiriolaeth Anabledd Dysgu Cymru Gyfan

Ar hyn o bryd mae Rhwydwaith Eiriolaeth Anabledd Dysgu Cymru Gyfan yn cyfarfod hyd at dair gwaith y flwyddyn i drafod materion lleol a chenedlaethol sydd yn effeithio ar eiriolaeth yng Nghymru a'r effaith y mae'r gwasanaeth yn ei gael ar y bobl ag anableddau dysgu sydd yn ei ddefnyddio.

Yn hanesyddol sefydlwyd agenda'r rhwydwaith gan Anabledd Dysgu Cymru gyda chyfraniad ychwanegol gan y cyrff lleol sydd yn aelodau.

Os ydych yn gorff eiriolaeth sydd yn gweithio yng Nghymru ac yn aelod o Anabledd Dysgu Cymru gallwch ymuno â'n rhwydwaith trwy gysylltu â'r prif swyddfa a gofyn iddynt roi eich enw ar y rhestr bostio.

Ar hyn o bryd rydym yn ceisio adolygu rol y rhwydwaith hon, yng ngoleuni rhwydweithiau eraill newydd sy'n cael eu sefydlu ledled Cymru ac rydym yn gofyn am farn ein haelodau ar sut y gallwn barhau i wneud defnydd gorau o'r cysylltiadau o fewn ein rhwydwaith.

Mae'r wybodaeth ganlynol wedi ei hanfon at ein holl aelodau rhwydwaith a byddwn yn edrych ar yr ymatebion a dderbyniwn er mwyn cael arweiniad i ddatblygu'r gwaith gwerthfawr hwn yn ystod 2007/08.

Rydym nawr yn ystyried sut orau i fynd ymlaen gyda'r Rhwydwaith ac rydym yn cynnig nifer o ddewisiadau isod:

1. Cynnal pedwar cyfarfod diwrnod llawn y flwyddyn yng Nghanolbarth Cymru, fel ag yr ydym wedi arfer ei wneud, a rhoi digon o rybudd ymlaen llaw am y dyddiadau

2. Cynnal un cyfarfod cenedlaethol y flwyddyn, gyda chyfarfodydd rhanbarthol hanner diwrnod llai yng Ngogledd Cymru, Canolbarth a Gorllewin Cymru a De Cymru.

3. Y grwp i nodi un maes allweddol o ddiddordeb ar gyfer ei drafod mewn cyfarfod blynyddol, gyda digwyddiadau lleol llai i hyrwyddo materion eiriolaeth.

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â'r Rhwydwaith ac os oes gennych farn ynglyn â sut yr hoffech ei weld yn gweithio buasem yn ddiolchgar pe gallech gysylltu â ni gyda'ch syniadau.