Darparwyr Oedolion
Pwy ydym
Cyrff gwirfoddol ydym sydd yn darparu cefnogaeth i oedolion ag anableddau dysgu yng Nghymru. Mae’r gefnogaeth a ddarparwn yn amrywiol:
- Byw gyda chefnogaeth (tenantiaethau sengl neu rhannu)
- Cefnogaeth sesiwn
- Lleoliadau oedolion
- Gofal preswyl
- Arhosiad byr a chyfnodau o egwyl
- Help i gael gafael ar waith, hamdden a dysgu
- Cyngor a gwybodaeth
- Unrhyw beth yr ydych angen help i’w wneud
Yr hyn yr ydym yn ei gynrychioli
Rydym wedi ymrwymo i weledigaeth Anabledd Dysgu Cymru: Cymru lle mae pob person ag anabledd dysgu yn gallu byw bywyd cyffredin yn y gymuned. Rydym yn bodoli fel darparwyr fel bod hyn yn gallu digwydd. Rydym yn galluogi pobl i wneud y mwyaf o’u potensial fel unigolion trwy ddarparu cefnogaeth barchus. Gweler hefyd Siarter Anabledd Dysgu Cymru.
Ein trefniadaeth
Rydym wedi dod ynghyd i greu Rhwydwaith Byw yn y Gymuned Cymru Gyfan. Rydym yn ethol dau berson i fod ar bwyllgor rheoli Anabledd Dysgu Cymru, fel ymddiriedolwyr. Rydym yn cynnal cyfarfodydd Rhwydwaith bedair gwaith y flwyddyn gan ddefnyddio cyfleusterau fideo gynadledda ym Mangor, Llandrindod a Chaerdydd. Mae hyn yn lleihau costau teithio ac yn annog cyfranogiad gan asiantaethau ar draws Cymru. Am ragor o wybodaeth am y Rhwydwaith cliciwch yma.
Pethau yr ydym yn falch ohonynt
O bosibl, y peth mwyaf yr ydym wedi ei gyflawni fel sector (mewn partneriaeth gyda darparwyr a chomisiynwyr tai) yw cau’r hen ysbytai ‘nam meddwl’ mawr yng Nghymru. Mae cannoedd o bobl wedi’u rhyddhau o’r lleoliadau amhriodol hyn. Maent wedi cael eu hail gartrefu mewn cartrefi cyffredin yn y gymuned, gyda chefnogaeth asiantaethau gwirfoddol.
Pryderon cyfredol
Mae arian yn dynn. Mae’r symudiad tuag at gyllido Cefnogi Pobl ychydig flynyddoedd yn ôl yn dechrau ymddangos fel y tro anghywir, gan fod y cyllid yn cael ei dorri a’i dorri. Mae Awdurdodau Lleol yn dân dros ‘effeithiolrwydd cost’ ac mae rhai yn dilyn y llwybr byrraf trwy dendro’n cael ei yrru gan gost. Os nad yw Cymru’n ofalus caiff yr ansawdd gofal y mae wedi ei feithrin ers yn gynnar yn yr 1980au ei ddisodli gan atebion rhad ac anfoddhaol. Nid ‘rhagor o arian os gwelwch yn dda’ ydy’r ateb. Rhaid darganfod ffyrdd newydd o weithio, cydweithio, bod yn arloesol, gwneud defnydd creadigol o adnoddau cymunedol, gwneud y mwyaf o annibyniaeth a dewis pobl.
Ymddiriedolwyr
Mae Cartrefi Cymru yn darparu amrediad o wasanaethau yng ngogledd, canolbarth a de Cymru ac mae’n awyddus i weithio gydag unrhyw un ar ddatblygu rhwydweithiau cyfeillgarwch a chefnogaeth. Mae Ategi yn cefnogi pobl yn ne ddwyrain Cymru ac mae’n un o ddarparwyr cefnogi lleoliadau oedolion amlycaf Cymru.



