Gwasanaeth Gwybodaeth Hygyrch
Mae ein Gwasanaeth Gwybodaeth Hygyrch yn galluogi cyrff ac asiantaethau statudol i gynhyrchu gwybodaeth mewn fformat sydd yn haws i bobl ag anableddau dysgu ei ddeall. Mae hyn yn cynnwys iaith blaen, llai o eiriau, cynllunio eglur a deunydd gweledol effeithiol.
Mae 19 taflen wedi eu cyhoeddi ar ran awdurdodau lleol ers cychwyn y gwasanaeth yn 2002.
Darllenwch ein taflen neu cysylltwch â ni i drafod sut y gallwn helpu eich sefydliad neu asiantaeth i gynhyrchu gwybodaeth mwy hygyrch.




