'Camdriniaeth - Dywedwch wrth Rhywun' DVD rhyngweithiol
'Mae Camdriniaeth - Dywedwch wrth Rhywun' yn DVD rhyngweithiol i oedolion ag anableddau dysgu i:
- Rhoi gwybodaeth i chi am eich hawliau i'ch cadw’n ddiogel rhag niwed a chamdriniaeth
- Eich helpu i ddeall beth ydy camdriniaeth
- Gwybod beth i'w wneud os ydych chi'n cael eich cam-drin neu rhywun arall yr ydych yn ei adnabod
Mae Camdriniaeth - Dywedwch wrth Rhywun yn ganlyniad prosiect ar y cyd rhwng Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan, Anabledd Dysgu Cymru, Mencap Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Cynhyrchwyd y DVD yng Nghymru ac mae wedi’i chefnogi a'i chyllido gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Mae'r DVD hwn yn hynod o berthnasol i oedolion ag anableddau dysgu yn y DU. Bydd yn ddefnyddiol i'r holl staff sydd yn gweithio ac yn cefnogi pobl ag anableddau dysgu yn y sector gwirfoddol, sector preifat, gwasanaethau cymdeithasol, iechyd ac addysg.
Lansiodd Gwenda Thomas, Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth y Cynulliad, y DVD yng Nghynhadledd Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan ym mis Medi 2008 a dywedodd: "Rwy'n llongyfarch y rhai sydd yn gyfrifol am y DVD 'Camdriniaeth - Dywedwch wrth rhywun' sydd yn gam i'r cyfeiriad cywir o ran amddiffyn pobl ag anableddau dysgu rhag camdriniaeth".
Mae'r DVD rhyngweithiol yn arloesol oherwydd mae'n cynnwys gwybodaeth sain, gweledol ac ysgrifenedig sydd yn caniatáu i'r gwyliwr ryngweithio gyda sawl rhan ohono ac mae hynny yn ei wneud yn hygyrch i gymaint o bobl ag anableddau dysgu á phosibl.
Mae 6 rhan:
Rhan 1: sut i ddefnyddio'r DVD hwn
Rhan 2: Rhaglen ddogfen am gamdriniaeth. (10 munud)
Rhan 3: Drama rhyngweithiol. Mae 5 gwahanol ddrama i chi eu gwylio ac i ryngweithio gyda nhw pob un yn cynnwys y gwahanol ffurfiau o gamdriniaeth. Mae'r dramâu yn caniatáu i chi wneud dewisiadau sydd yn effeithio ar gymeriad o'r enw Joe.
Rhan 4: Cwis. Cewch gwestiynau am gamdriniaeth i'w hateb. Dewiswch o 3 ateb posibl i weld os cewch bob un yn gywir. Bydd hyn yn eich helpu i weld beth yr ydych wedi'i ddysgu.
Rhan 5: Manylion cyswllt ar gyfer Cydlynwyr Amddiffyn Oedolion Bregus yng Nghymru
Rhan 6: Taflen Darllen Hawdd. Gwybodaeth hawdd i'w ddeall a'i ddarllen am gamdriniaeth. Mae'n cynnwys cysylltiadau a dolenni defnyddiol i wefannau. Dim ond os ydych yn chwarae'r DVD ar gyfrifiadur y gallwch weld y daflen.
Cost yn cynnwys postio:
- I oedolion ag anableddau dysgu a chyrff yng Nghymru - am ddim
- Pobl yn Gyntaf a Grwpiau Hunan Eiriolaeth y tu allan i Gymru - £20 a TAW (neu £15 a TAW am 3 neu ragor o o gopiau)
- Unigolion/grwpiau eraill y tu allan i Gymru - £40 a TAW (neu £30 a TAW yr un am 3 neu ragor o gopďau)
Am ragor o wybodaeth neu i archebu copi o 'Camdriniaeth - Dywedwch wrth Rhywun' lawr lwythwch y daflen a'r ffurflen archebu isod (cliciwch ar y dde ar dolen a dewiswch 'Save Target As').





